Clywais sôn gan un a'm carai, Ddyddiau gloewon Ieunac oed, Fod y Tylwyth Teg yn chwarae Dawnsio'n hoewon Dan y coed.
Chwilias hyd y dolau ganwaith, Dan ganghennau Derw y fro, Gwelais hwy yn dawnsio'n lanwaith Fân ddolennau Lawer tro.
Lawer noswaith, hir ddisgwyliais Lle'r ymlonnynt Wedi hyn, Ond ni welais, er a wylais, Un ohonynt Yn y glyn.
Eto ceisaif, er a fynno Oes ddiawen Dan ei rheg, Ddychwel adref a chael yno Ieuanc lawen Dylwyth Teg!